Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau


Lleoliad:

Committee Room 5 - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Llun, 20 Gorffennaf 2020

Amser: 13.30 - 16.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
6424


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

John Griffiths AS (Cadeirydd)

Dawn Bowden AS

Huw Irranca-Davies AS

Delyth Jewell AS

David Melding AS

Tystion:

Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Simon White, Llywodraeth Cymru

Emma Williams, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Naomi Stocks (Clerc)

Catherine Hunt (Ail Glerc)

Chloe Davies (Dirprwy Glerc)

Jonathan Baxter (Ymchwilydd)

Hannah Johnson (Ymchwilydd)

Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol)

Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

1.2. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd iddo bennu na allai’r cyhoedd fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor, er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.

1.3. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai'n gadael y cyfarfod am ryw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

1.4. Dirprwyodd David Melding AS ar ran Mark Isherwood AS yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

</AI1>

<AI2>

2       Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): sesiwn dystiolaeth 6

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

·       Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

·       Simon White, Pennaeth Strategaeth Tai a Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru

 

</AI2>

<AI3>

3       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 14 Medi 2020

3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

</AI3>

<AI4>

4       Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a thrafod y materion allweddol

4.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2, ac ystyried a chytuno ar y materion allweddol.

 

</AI4>

<AI5>

5       Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Trafod y materion allweddol mewn perthynas ag adroddiad COVID-19 a chydraddoldeb

5.1. Bu'r Pwyllgor yn ystyried y materion allweddol ar gyfer adroddiad ynghylch COVID-19 a chydraddoldeb a chytunodd ar y materion hynny.

 

</AI5>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>